S4C yn comisiynu cyfres seicolegol gyffrous newydd Y Golau

Category: News Release
The Light in The Hall / Y Golau actors (Actorion Y Golau) Iwan Rheon, Alexandra Roach and Joanna Scanlan

Mae'r stori hon ar gael yn Saesneg hefyd (This story is also available in English): https://www.channel4.com/press/news/s4c-commissions-new-psychological-thriller-light-hall-y-golau

Mae’r darlledwr Cymraeg S4C wedi comisiynu cyfres seicolegol newydd 6 x 60’ Y Golau / The Light In The Hall yn cael ei chyd-gynhyrchu gan y cynhyrchwyr annibynnol Duchess Street Productions a Triongl ar y cyd ag APC Studios, a chyda chefnogaeth Cymru Greadigol. 

Mewn cynlluniau wedi’u trefnu gan APC Studios, sydd hefyd yn delio â’r gwerthiant ar draws y byd, mae’r gyfres yn cael ei chynhyrchu ar y cyd â Channel 4 a Sundance Now ar gyfer y fersiwn Saesneg i’w darlledu yn y DG a Gogledd America, Awstralia a Seland Newydd yn y drefn honno. 

Mae’r gyfres wedi’i hysgrifennu a’i chreu gan Regina Moriarty (Murdered By My Boyfriend) a’i chyfarwyddo gan Andy Newbery (Keeping Faith) a Chris Forster (Hidden), Y Golau / The Light In The Hall a chaiff ei ffilmio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yr actorion yw Alexandra Roach (Killing Eve, Sanditon, No Offence), Iwan Rheon (Misfits, Game of Thrones) a Joanna Scanlan (After Love, No Offence). Bydd y ffilmio’n dechrau yn yr hydref eleni, a’r bwriad yw darlledu yn 2022. 

Roedd y newyddiadurwraig Cat Donato (Roach), yn wreiddiol o’r un dref, erioed wedi cymryd diddordeb yn llofruddiaeth Ela Roberts. I Cat roedd yn fater personol. Roedd Ela wedi bod yn un o’i ffrindiau, ond cyn ei llofruddio roedd Ela wedi ei diarddel oherwydd hen ffrae wirion rhwng plant yn eu harddegau, ffaith roedd Cat wedi gwneud y gorau i’w hanghofio.

Nid yw Sharon Roberts (Scanlan), mam Ela,  erioed wedi gallu peidio â galaru am golli ei merch. Mae ei hatgofion o’r diwrnod olaf hwnnw yn dal i darfu arni, ac mae Sharon am i’r mater gael ei ddatrys. Joe Pritchard (Rheon), garddwr tawel diymhongar, a gafodd ei arestio am lofruddiaeth Ela ar ôl i’w DNA gael ei ddarganfod yn ei garafán. Cyfaddefodd Joe iddo ladd Efa, ond roedd yn gwrthod neu’n methu â dweud pam na beth wnaeth e â’i chorff.

Mae’r newyddion am wrandawiad parôl Joe a meddwl y gallai gael ei rhyddhau yn gorfodi’r ddwy wraig i wynebu’r gorffennol a’u rhan yn nyddiau olaf Ela. I Cat mae’n gyfle i ysgrifennu’r digwyddiadau cywir am y llofruddiaeth, ac i Sharon mae’n gyfle i wynebu’r dyn a laddodd ei phlentyn. Gyda chynifer o gwestiynau’n dal heb eu hateb, gallai gweld Joe yn dychwelyd i’r gymuned fod yn ffordd i ddod i waelod dirgelwch unwaith ac am byth. Ond os Joe a laddodd Efa, pam, a ble mae ei chorff?

Bydd Donna Wiffen a Jo Roderick o Duchess Street Productions, Gethin Scourfield a Nora Ostler o Triongl a Laurent Boissel o APC Studios yn cynhyrchu’n weithredol, ynghyd â Gwenllian Gravelle o S4C. Yn y DG mae’r gyfres wedi’i phrynu gan Nick Lee, Prynu yn Channel 4, Caroline Hollick, Pennaeth Drama yn Channel 4, a chaiff ei goruchwylio gan y Golygydd Comisiynu, Gwawr Lloyd.

Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: “Mae’r ddrama gyffrous hon yn sicr yn addo bod yn un a gaiff ei chofio. Gyda chast o sêr a thîm cynhyrchu dawnus, rydyn ni’n ysu am gael cyflwyno Y Golau i wylwyr S4C. Hwn fydd ein cyd-gynhyrchiad cyntaf erioed gyda Channel 4, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd ynghyd â Triongl Production Company a Duchess Street Productions ar y gyfres syfrdanol hon.”

Meddai Donna Wiffen, Rheolwr Gyfarwyddwr yn at Duchess Street Productions: “Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn i fod yn dod â dawn ysgrifennu arbennig Regina i’r sgrin yn ei chyfres deledu wreiddiol gyntaf.

Mae Nora Ostler, Cynhyrchydd Gweithredol yn Triongl hefyd yn dweud:  “Rydyn ni wrth ein bodd yn cael gweithio gyda Regina, y cast gwych a’n partneriaid dawnus yn Duchess Street ar y stori gyffrous hon. Diolch yn fawr i Gwenllian, S4C ac APC am eu cefnogaeth yn ystod datblygu’r gyfres, ac i C4, Sundance Now a Cymru Greadigol am wneud hyn yn bosibl. Edrychwn ymlaen at gael mynd â’r stori rymus hon o Gymru i’r byd.”  

Meddai Laurent Boissel, Cyd-PSG a Chyd-Sylfaenydd yn APC: “Rydyn ni’n teimlo’n eithriadol o gyffrous yn cael gweithio gyda’r timau dawnus yn Duchess Street a Triongl ar y gyfres ddwyieithog uchelgeisiol hon. Mae ymroddiad S4C i’r sioe, ynghyd â chefnogaeth C4 a Sundance Now, yn creu llwyfan darlledu arbennig ar gyfer y gyfres. Fel cynhyrchydd rydyn ni’n falch iawn bod yn rhan, ac fel dosbarthwr  rydyn ni’n edrych ymlaen at fynd â’r sioe i wledydd eraill ledled y byd.”

Mae Nick Lee, Pennaeth Pwrcasu yn C4, yn ychwanegu: “Mae’r Golau ynghyn! Mae’r stori am anghyfiawnder a dial yn wirioneddol ddifyr. Mae’n olwg unigryw ar stori gyffro am lofruddiaeth lle mae’r cliwiau, y cymeriadau a’r stori’n symud yn gyflym: drwy ychwanegu cast mor ddawnus mae’n sioe rydyn ni’n falch bod yn bartner ynddi.”

Ychwanega Shannon Cooper, Is-lywydd Rhaglennu yn Sundance Now, fel hyn: “Mae’r nodwedd soffistigedig, y troeon cyffrous a’r dyfalu cyson ym mhob munud yn y stori hon yn dyst i ysgrifennu Regina, ac rydyn ni wrth ein bodd yn cael gweithio ar y cyd a’r tîm creadigol bywiog hwn a’r cast eithriadol wrth i hon symud o dudalen i dudalen ar y sgrin. Rydyn ni’n ddiolchgar i’n partneriaid yn DSP, Triongl, APC, S4C a Channel 4 am ddod â ni ar y daith hon sy’n sicr o fod yn gyffrous.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cynnig cymorth drwy gyllid Cymru Greadigol i'r cynhyrchiad a'r bartneriaeth gyffrous hon rhwng Triongl, S4C, Duchess St, a Channel 4 ac APC. Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy a thâl i hyfforddeion, gan ddiogelu ein diwydiant yn y dyfodol, ysgogi buddsoddiad i'r economi leol, a bydd yn arddangos talent, iaith a diwylliant Cymru ledled y DU ac yn rhyngwladol."

 

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â DDA:

Janet Balmforth neu e-bost janet.balmforth@ddapr.com

 

Nodiadau i Olygyddion:

Duchess Street Productions (DSP). Cynhyrchydd drama gyffrous yn y DG yw hwn  sy’n rhan o grŵp Long Story TV dan reolaeth Paul Marquess a Donna Wiffen. Mae’r grŵp yn arbenigo mewn datblygu a chynhyrchu cyfresi drama mae pawb am eu gwylio, ac addasiadau teledu ar gyfer y marchnadoedd cartref ac ar draws y byd. Mae cwmni Long Story TV yn ymfalchïo yn ei waith gyda’r awduron gorau i gyd: y doniau mwyaf angerddol, sefydledig ac addawol o’r byd teledu, ffilm a theatr, ac erbyn hyn man ganddo bortffolio aeddfed o brosiectau sy’n cynnwys London Kills (20x45) i Acorn TV - Hope Street (10x45) i BBC a Britbox.

Triongl. Cwmni cynhyrchu teledu a ffilm a sefydlwyd yn 2017 gan Nora Ostler Spiteri ac Alec Spiteri. Ymunodd y cyfarwyddwr cwmni cymdeithiol Gethin Scourfield yn  2018 ar ôl blwyddyn yn olygydd comisiynu drama dros dro yn S4C. Mae’r tri yn gynhyrchwyr profiadol gyda hanes o gynhyrchu cynnwys arobryn o safon uchel, gydag arbenigedd penodol mewn cynhyrchu cefngefn (dwy iaith). Mae eu doniau gyda’i gilydd yn cynnwys llwyddiannau rhyngwladol Keeping Faith (S4C/BBC Wales/APC), Hinterland (S4C/BBC/All3Media international), The A List (Netflix/Lionsgate) a The Miniaturist (BBC/WGBH/All3Media International).

Lansiwyd eu cyfres fer Pili Pala (Butterfly Breath) gyntaf ar S4C ym mis Medi 2019 gan All3Media International yn MIPCOM yn Cannes. Ar hyn o bryd maen nhw’n ffilmio Stad, cyfres ddrama 6x60’ i S4C – cyd-gynhyrchiad gyda Cwmni Da. Mae eu darpariaeth helaeth yn cynnwys nifer o gyfresi drama a ffilmiau nodwedd.

APC Studios Y penaethiaid yw’r prif swyddogion profiadol Emmanuelle Guilbart a Laurent Boissel ac maent yn arwain fel cwmni cynhyrchu a dosbarthu annibynnol o fri yn bartner gyda chrewyr byd-eang i ddatblygu ac ariannu  prosiectau o’r cychwyn cyntaf i’r dosbarthu rhyngwladol. 

Mae APC wedi datblygu storfa o ffuglen yn Saesneg ac mewn ieithoedd lleol gan amrywiaeth o gynhyrchwyr byd-eang o bob rhan o’r byd, gan gynnwys y ddram boblogaidd iawn Keeping Faith (BBC/S4C), Man in Room 301, Shadow Lines (Elisa Viihde), Operation Buffalo (ABC Australia), Gigantes, La Linea invisible (Telefonica Studios), Alex (Viaplay), cyfresi steil A Very Secret Service (Arte) a Valkyrien (NRK). Mae APC hefyd yn darparu rhaglenni ffeithiol ac adran blant APC Kids gyda’i gwmni cynhyrchu ei hun Zephyr Animation.

O AMC Networks, mae Sundance Now <https://www.sundancenow.com/> ar gyfer gwylwyr teledu sydd am wylio diwylliant ac sy’n chwilio am y gyfres nesaf i ysu amdani. Mae’n cynnig dewis cyfoethog o gyfresi gwreiddiol ac unigryw o storïau trosedd i ddrama storïau sy’n cydio a storïau cyffrous o bob rhan o’r byd, i gyd yn ffrydio’n rhad ac am ddim. Caiff rhaglenni newydd eu hychwanegu bob wythnos, ac mae Sundance Now wedi dangos am y tro cyntaf nifer o Gyfresi Sundance Now o fri, gan gynnwys stori gyffrous oruwchnaturiol A Discovery of Witches gyda Matthew Goode a Teresa Palmer; stori gyffro Riviera gyda Julia Stiles; drama gyffro o Ffrainc sydd wedi’i chanmol yn fawr The Bureau; a drama gyfnod o Sweden The Restaurant, ynghyd â Ffilmiau Unigryw i Sundance Now fel stori gyffro wir o Brydain Des gyda David Tennant; drama o Awstralia Upright gyda Tim Minchin; drama Nordig Sanctuary; stori gyffro seicolegol o Awstralia The Secrets She Keeps, drama seicolegol o Brydain Cheat; drama o Awstralia drama Bad Mothers; stori gyffro Nordig Wisting a stori ias a chyffro o Brydain The Cry gyda Jenna Coleman; yn ogystal â ffrydio rhai unigryw, gan gynnwys yr enillydd Emmy State of the Union gyda Rosamund Pike a Chris O’Dowd; y stori ias a chyffro Liar gyda Joanne Froggatt ac Ioan Gruffudd; a chyfres gyffro afaelgar The Suspect, The Dakota Entrapment Tapes, The Preppy Murder: Death in Central Park, No One Saw a Thing a Killing for Love gyda phodlediad  Amanda Knox.